#

Pwyllgor Deisebau | 11 Rhagfyr 2018
 Petitions Committee | 11 December 2018
 
 
 ,P-05-812 Gweithredu canllawiau NICE ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol 

 

 

 

 


Briff Ymchwil: Crynodeb o ymatebion y Byrddau Iechyd

 

P-05-812 Gweithredu canllawiau NICE ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Testun y Ddeiseb:

Cyhoeddwyd dogfen o’r enw No Longer a Diagnosis of Exclusion, a oedd yn amlygu bod y rhai a gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth yn cael eu cam-drin, yn 2003.

Cyhoeddwyd canllawiau NICE ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol yn 2009. Naw mlynedd yn ddiweddarach, ac mae llai na hanner ymddiriedolaethau Cymru yn darparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â’r canllawiau. Mae hyn yn cymharu ag 84 y cant yn Lloegr.

Mae pobl sydd â’r diagnosis hwn yn aml yn dod o gefndiroedd o gamdriniaeth ac esgeulustod.

Bydd 1 o bob 10 o bobl gyda’r diagnosis hwn yn marw drwy hunanladdiad.

Darganfu’r Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ddynladdiad a Hunanladdiad, o’r 1 o bob 10 o bobl a derfynodd eu bywydau dros gyfnod eu hastudiaeth, nid oedd yr un ohonynt yn derbyn gofal a argymhellir gan NICE.

Mae arbenigwyr yn y maes yn rhybuddio y bydd ymddiriedolaethau iechyd nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn or-ddibynnol ar driniaeth breifat y tu allan i’r ardal. Cefnogwyd y farn hon gan gynrychiolwyr o ymddiriedolaethau nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn y gynhadledd Anhwylder Personoliaeth Cymru yng Nghaerdydd yn 2016.

Rhaid inni wneud rhagor i gefnogi’r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth, ac wedi cael digon o gam eisoes.

Rhaid inni hefyd wneud rhagor i amddiffyn trethdalwyr Cymru, drwy ddarparu gwasanaethau cymunedol effeithiol yn hytrach na lleoliadau trin drud y tu allan i’r ardal.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.

Crynodeb o Ymatebion y Byrddau Iechyd Lleol

Ar 30 Gorffennaf 2018, ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at y saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru i gael gwybodaeth am y gwasanaethau maent yn darparu ar hyn o bryd i bobl ag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardal, ac yn benodol p'un a yw gwasanaethau arbenigol ar gael yn unol â chanllawiau NICE. Darparwyd ymatebion gan bob un o'r 7 BILl.

Mae'r canlynol yn cynnwys crynodeb o'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i bobl ag anhwylder personoliaeth ffiniol:

§    Mae'r Byrddau Iechyd Lleol (BILl) yn ceisio sicrhau'r Pwyllgor bod gwasanaethau seicolegol a therapiwtig i'r rhai ag anhwylder personoliaeth ffiniol ar gael yn eu hardaloedd lleol. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r ymatebion bod amrywiad o ran mynediad i wasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar draws ardaloedd byrddau iechyd gwahanol.

§    Caiff y brif ddarpariaeth gofal i bobl sydd â diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol ei ddarparu'n bennaf o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, ynghyd â darpariaeth arbenigol ychwanegol.

§    Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) yn darparu gwasanaeth arbenigol cynhwysfawr llawn ar hyn o bryd ar draws y gogledd. Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) yn comisiynu rhai gwasanaethau gan Fyrddau Iechyd eraill Cymru a gan y sector annibynnol (ond maent yn datblygu model newydd i ddarparu gwasanaethau ym Mhowys). 

§    Darperir ystod o ymyriadau arbenigol i bobl â diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol, gan gynnwys Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, Seicotherapi, a Therapi Dadansoddol Gwybyddol (ymysg eraill), ond mae'r ffocws wedi bod ar sefydlu arbenigedd wrth ddarparu Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT) yn unol â chanllawiau NICE. 

§    Mae mewnbwn arbenigol yn cael ei ddatblygu a'i ehangu gan dimau aml-ddisgyblaeth hyfforddi ac uwch-sgilio ymarferwyr a chlinigwyr yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHTs), i ddatblygu gweithlu aml-broffesiynol sy'n hysbys yn seicolegol. 

§    Mae'r dystiolaeth ar ba driniaeth sydd ar gael i bobl ifanc ag anhwylder personoliaeth ffiniol sy'n dod i'r amlwg yn gymysg. Er enghraifft, mae DBT ar gael drwy'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAMHS) arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUHB), ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (CVUHB) yn amlygu bylchau mewn gwasanaethau i gefnogi'r broses o bontio pobl ifanc ag anhwylder personoliaeth sy'n dod i'r amlwg o CAMHS i wasanaethau iechyd meddwl (fel y nodir yng nghanllawiau NICE).

§    Dywedwyd wrthym fod gwasanaethau y tu allan i'r ardal yn cael eu defnyddio fel dewis olaf - pan fydd risg cleifion yn uchel iawn a/neu pan fydd angen darparu ymyriadau mewn lleoliad cleifion mewnol.

Gellir gweld yr ymatebion unigol gan y Byrddau Iechyd yma.